Sir Gaerfyrddin
Mae ei thirweddau tonnog gwyrdd a'i hatyniadau garddwriaethol gyda'r blaenaf wedi arwain at alw Sir Gaerfyrddin yn 'Ardd Cymru'.
Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Nyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin yn 2000, y cyntaf o'i bath i gael ei chreu ym Mhrydain mewn dros 200 mlynedd. Mae hon yn sicr yn ardd ar gyfer yr oes newydd gyda phopeth o fflora Môr y Canoldir i rywogaethau nodweddiadol Gymreig, tirweddu llawn dychymyg a phensaernïaeth sy'n rhyfeddol. Yn ganolbwynt harddwych iddi mae Syr Norman Foster wedi cynllunio’r Tŷ Gwydr Mawr, tŷ gwydr rhychwant sengl mwyaf y byd, sy'n hyfrydwch i'r synhwyrau gan fodd lliw ac aroglau yno'n drwch.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yn 2010 ac mae'r Tŷ Gwydr, y Tŷ Poeth a'r planhigion ar y tirwedd oddi amgylch wedi aeddfedu mewn modd trawiadol.
Dim ond taith fer o'r Ardd Fotaneg Genedlaethol ceir Aberglasne. Mae'r ardd wefreiddiol hardd o'r 16 a'r 17 ganrif ac fe’i cynlluniwyd i ymgorffori chwe gwahanol ofod gardd yn ei 10 erw. Mae hon hefyd wedi ennill enw haeddiannol fel un o brosiectau adfer mwyaf cyffrous y DU.
Mae gan yr ardd ychwanegiad cyffrous. Crëwyd gardd aeaf unigryw, yr ‘Ninfarium’, o fewn cwrt adfeiliedig y plasty i fod yn gartref i rywogaethau egsotig sy'n llenwi'r awyr a'u harogl a'u môr o wyrdd cyfoethog.
Gerllaw mae Parc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma ceir erwau o barcdir gogoneddus wedi ei dirweddu ac yn edrych drosto mae adeilad cadarn Castell Dinefwr. O ben y Castell bydd ymwelwyr yn cael golygfa banoramig 360 gradd drawiadol o Sir Gaerfyrddin a Dyffryn hardd Afon Tywi.
Yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin mae Canolfan Hywel Dda, ychwanegiad cyfareddol i unrhyw ymweliad. Gardd a grëwyd fel teyrnged i un o frenhinoedd mawr Cymru ac i'r cyfreithiau a ddyfeisiodd, tra gallwch i'r dwyrain ddod o hyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda’i olygfeydd naturiol rhyfeddol.
Archwiliwch Sir Gaerfyrddin yn fanylach yn www.visit.carmarthenshire.gov.uk
Gerddi Sir Gaerfyrddin http://www.discovercarmarthenshire.com/natural/gardens.html