Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Sir Gaerfyrddin
Rossilli Bay

Mae gan Sir Gaerfyrddin dros 30 o lwybrau sydd wedi eu marcio ag arwyddion - ceir llwybrau cerdded addas i bob gallu, byr neu hir, arfordirol neu fewndirol a rhai garw gyda golygfeydd trawiadol o'r tir uchel. Gwlad Berffaith i gerdded

Mae rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r Mynydd Du yn nwyrain y sir yn llwybr cerdded poblogaidd iawn gyda cherddwyr sy'n hoffi eu natur yn wyllt, garw a hollol naturiol. Mae'r Mynydd Du yn y Parc Cenedlaethol yn rhan o Barc Daearegol Fforest Fawr - un o safleoedd parciau Daearegol byd-eang UNESCO, statws a roddir i diriogaeth sydd ag etifeddiaeth ddaearegol o arwyddocâd Ewropeaidd.

Ar dir is gallwch ddewis o'r llwybrau afon ac archwilio Taith Afon Teifi neu Daith Afon Tywi neu ewch am yr arfordir

Ffordd arbennig i weld yr ardal yw drwy gymryd rhan mewn gŵyl gerdded – Gŵyl Gerdded Llanelli a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn sy'n cynnig dewis o chwe llwybr cerdded y dydd dros dri diwrnod.

Porwch y safle a gwiriwch y llu o fapiau a llwybrau sydd ar gael i’w lawrlwytho  



 

 

 

 

// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Swansea Carmarthenshire Pembrokeshire
// Mwy o Wybodaeth

Pembrokeshire Walking

Carmarthenshire Walking

Swansea Bay Walking