Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Sir Gaerfyrddin
Rossilli Bay

Cartref Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasne a llawer iawn mwy.....

O chwedlau cyfareddol Myrddin i farddoniaeth fentrus Dylan Thomas.

Bwyd blasus, lleoedd moethus i aros, tai bwyta ffasiynol sy’n defnyddio cynnyrch lleol arbennig a thafarndai gwledig croesawgar i gael peint o gwrw lleol.

Bydd hyd yn oed y tirwedd yn eich synnu: tirweddau gwledig toreithiog, morliniau crisialaidd yn ymestyn at Saundersfoot yn sir Benfro a godrefryniau garw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.   Cyfeirir at yr ardal uwchben Llanymddyfri, Llandeilo a Dyffryn Tywi yn lleol fel y Mynydd Du. Dyma’r rhan leiaf adnabyddus o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chafodd ei gwneud yn rhan o Barc Geo Fforest Fawr yn ddiweddar. Mae’r Mynydd Du yn ardal anghysbell ag awyrgylch arbennig iddi, ac mae’n werth ymweld â hi.

Mae cefn gwlad sir Gaerfyrddin yn bur ac yn syml; nid yw’r arfordir wedi newid llawer ers y dyddiau y bu’n ysbrydoli Dylan Thomas. Ond mae mwy o lawer i’r rhan swynol, ryfeddol hon o Gymru nag a welir ar yr olwg gyntaf.

Wyddech chi mai yn sir Gaerfyrddin y mae traeth tywod hiraf Cymru - Cefn Sidan? Mae Gweithfeydd Aur Rhufeinig a chestyll rhamantaidd niferus ar hyd a lled yr ardal ac mae cymaint o ddewis o bethau i’w gweld ac i’w gwneud yma.

Dyffrynnoedd hyfryd Tywi, Cothi, Teifi, Gwendraeth a Taf, llynnoedd, bryniau a rhostiroedd - paradwys i bobl sy’n mwynhau byd natur a gwylio adar.   Gellir gweld y Cudyll Coch yn hedfan dros yr ardal yn aml.

Hoffech chi wneud rhywfaint o ymarfer corff?

Mae cerdded a beicio ymysg y gweithgareddau mwyaf poblogaidd yma. Mae beicwyr mynydd yn ymweld â choedwig Brechfa yn gyson er mwyn beicio ar hyd y llwybrau du, coch a glas cyffrous.

Mae sir Gaerfyrddin yn addas i gerddwyr o bob gallu ac mae’n hawdd dod ar draws perlau cudd. Ar hyn o bryd ceir tua 29 o deithiau gwledig o amgylch sir Gaerfyrddin, gan gynnwys tri llwybr hir newydd.

Dim ond detholiad o uchafbwyntiau sir Gaerfyrddin yw’r rhain, mae llawer mwy ohonynt yn yr ardal gudd hon o Gymru.

I gael gwybod mwy ewch i: www.discovercarmarthenshire.com


// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Pembrokeshire Carmarthenshire Swansea
// Mwy o Wybodaeth

Canolfan Groeso Sir Gaerfyrddin

113 Heol Awst, Caerfyrddin
SA31 3AQ,
Ffôn: +44 (0) 1267 231557
Ffacs: 01267 221901
e-bost: carmarthen.tic@carms...

Canolfan Groeso Llanymddyfri
Canolfan Treftadaeth, Heol y Brenin, Llanymddyfri, SA20 0AW
Ffôn/Ffacs: +44 (0)1550 720693
e-bost llandovery.tic@carms...

Canolfan Groeso Llanelli
Canolfan Ddarganfod Parc Arfordirol y Mileniwm, Doc y Gogledd, Llanelli,
SA15 2LF
Tel+ 44 (0) 1554 777744 e-bost: discoverycentre@carmarthenshi...

I lwytho copi PDF o’r llyfryn Llety oddi ar y we, cliciwch yma