Mae sir Benfro, sydd ym mhen pellaf De Orllewin Cymru, yn ardal arfordirol odidog, sydd wedi’i hamgylchynu gan y môr ar dair ochr.
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymestyn dros holl arfordir sir Benfro - dyma’r unig barc cenedlaethol o’r fath yn y DU ac mae rheswm da dros hynny. Mae’r arfordir yn drawiadol!
Fe’i gelwir yn ‘ardd Cymru’ ac yma mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol lle caiff ymwelwyr archwilio’r dreftadaeth a’r diwylliant cyfoethog, a mythau a chwedlau’r ardal, gyda chestyll ysblennydd a threfi marchnad prydferth. Mae yma gefn gwlad syfrdanol, gyda’r Mynydd Du (rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) yn y Dwyrain, traethau tywodlyd hiraf Cymru, dyffrynnoedd hardd Tywi, Cothi, Teifi, Gwendraeth a Taf, llynnoedd, bryniau a rhostiroedd - paradwys i bobl sy’n mwynhau byd natur a gwylio adar. Gellir gweld y Cudyll Coch yn hedfan dros yr ardal yn aml.
Dinas fywiog Abertawe ar lan y dŵr, tref lan y môr Fictoraidd boblogaidd y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr syfrdanol - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU. I’r dwyrain, mae Coedwig Afan yn fyd enwog am ei llwybrau beiciau mynydd ac mae Cwm Nedd, a chanddo’r enw addas ‘gwlad y rhaeadrau’ yn lleoliad delfrydol i gerdded a mwynhau’r olygfa.