Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Gerddi
pembrokeshire

Sir Benfro

Mae'r fflora naturiol, atyniadau gerddi ardderchog a'r tirweddau hollol ysblennydd yn cyfuno i roi i Sir Benfro enw lwyr haeddiannol fel paradwys i'r rhai hynny sy'n hoffi'r bywyd awyr agored. Mae bron draean y sir, yn cynnwys y llain arfordir i gyd, oddi fewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae llawer o atyniadau gerddi Sir Benfro yn adlewyrchu eu hamgylchedd naturiol. Yn hytrach na thirweddau ffurfiol, mae'r rhan fwyaf yn gasgliadau o rywogaethau egsotig mewn lleoliad naturiol. Mae hyn yn sicr yn wir am Erddi Coetir Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Amroth a Chastell Pictwn a'i Erddi ger Hwlffordd. Mae'r rhain yn erddi coetir heb eu hail - mae gan Colby ardd furiog ryfeddol gyda gasebo Gothig ysblennydd. Gall Castell Pictwn, lle mae'r castell Normanaidd yn sail i blasty gwledig crand, ymffrostio mewn 40 erw yn cynnwys casgliad helaeth o berlysiau meddyginiaethol a cheginol. Mae ganddo hefyd yr atyniad ychwanegol o fod â mynediad i'r castell sy'n nodedig am ei addurnwaith o’r ddeunawfed ganrif a'i gladdgell ganoloesol.

Yn llai ei faint, ond eto'r un mor ddengar, mae'r gerddi yng ngogledd Sir Benfro yn cynnwys Penlan Uchaf yng Nghwm Gwaun, Gardd Furiog Manorowen ger Abergwaun a Bro Meigan ger Boncath. Mae Bro Meigan yn ardd bartner i Gymdeithas Arddwriaethol Prydain ac mae ynddi ystod helaeth o blanhigion ac ystafell de sy'n llawn temtasiwn.

Yn ne Sir Benfro, mae Parc Begeli gyda’i ardd Japaneaidd, yn lle ardderchog i ymweld ar ef a chaiff ymwelwyr eu cyfareddu gan Lynnoedd Lilïau Bosherston ger Penfro.
Am brofiad unigryw, gellir mynd at daith i’r Warchodfa Natur Genedlaethol ar Ynys Sgomer, sydd ddim ond taith 15 munud ar gwch o benrhyn Dale. Mae'n pery rhyfeddod, yn arbennig ym mis Mai a mis Mehefin pan fydd carped o flodau’r gog a gludlys yn gefnlen i filoedd o adar y pâl ac adar môr eraill.

Archwiliwch Sir Benfro yn fanylach yn www.visitpembrokeshire.com http://www.visitpembrokeshire.com a cheir rhagor o fanylion am erddi yn  http://www.britainexpress.com/wales/pembrokeshire/gardens.htm



// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Swansea Carmarthenshire Pembrokeshire
// Mwy o Wybodaeth

Pembrokeshire Gardens

Carmarthenshire Gardens

Swansea Bay Gardens