Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Sir Benfro
Pembrokeshire walking

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU, yn cwmpasu 640 km sgwâr ac yn gartref i Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ac unig Warchodfa Natur Forol Cymru - un o ddim ond tair yn y DU. Dyma lle dowch chi o hyd i rai o lwybrau cerdded gorau'r DU fel rhan o Lwybr Arfordir Sir Benfro

O olygfeydd pen y clogwyni dramatig i arfordir eang, ceir 58 o draethau ac 14 harbwr ynghyd â threfi a phentrefi megis Dinbych y Pysgod, Tyddewi a Solfach. Mae'n golygu bod cerdded yn Sir Benfro yn amrywiol ac nid yw byth yn brin o dirwedd ysbrydoledig.

Mae'r flora a'r bywyd gwyllt a welwch yn sicrhau gwyliau cerdded neu wyliau byr cofiadwy.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn un o Lwybrau Cenedlaethol Prydain a cheir taith gerdded arfordirol flynyddol sy'n cynnwys y cyfan o’r 400km.

Ar gyfer gwyliau neu egwyl fer mae'n hawdd dewis taith sy'n gylchol neu’n llinol, yn amrywio o dro rhwydd i daith diwrnod cyfan gan ddefnyddio darganfyddwr teithiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Er mwyn gwneud eich gwyliau cerdded yn hawdd i'w gynllunio gallwch chwilio am lety a chysylltiadau trafnidiaeth gan ddefnyddio www.visitpembrokeshire.com

Mae'r gwasanaeth bws arfordirol, sy’n rhedeg drwy’r flwyddyn, erbyn hyn yn fwy cyfeillgar nag erioed i'r amgylchedd, gan fod y bysiau’n cael eu pweru gan olew llysiau a ailgylchwyd, ac mae'n berffaith ar gyfer cerddwyr ac yn cwmpasu'r Parc Arfordirol yn gyfan fel eich bod yn gallu cynllunio eich llwybr gyda hyder.  www.pembrokeshire.gov.uk/coastbus


 

 

 

 


// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Swansea Carmarthenshire Pembrokeshire
// Mwy o Wybodaeth

Pembrokeshire Walking

Carmarthenshire Walking

Swansea Bay Walking