Parc Cenedlaethol Arfordir Prydain
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymestyn dros draean o'r sir gan gynnwys yr holl ardaloedd arfordirol a Mynyddoedd y Preseli. Mae'r tirweddau hyn yn arbennig a, diolch i statws gwarchodedig y Parc Cenedlaethol, nid ydynt wedi'u datblygu.Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot
Mae’r dref gaerog ganoloesol hon yn dref ddiddorol wedi’i hamgylchynu gan dri thraeth baner las arbennig. Ceir traethau yr un mor hyfryd gerllaw yn Saundersfoot.Penrhyn Castell Martin
Ceir uchafbwyntiau anhygoel ym mhen pellaf sir Benfro: Caiff traeth Barafundle ei enwebu fel traeth gorau Prydain yn rheolaidd. Traeth Freshwater West yw traeth syrffio gorau Cymru. Mae pentref hardd Bosherston gyda’i lynnoedd lili godidog a chapel Sant Gofan wedi’i adeiladu mewn hollt yn y creigiau yn werth eu gweld.
Ynys Sgomer
Ceir nifer o ynysoedd bach oddi ar yr arfordir; Sgomer, Sgogwm, Gwales a Dewi, ac y mae yma nythfeydd adar y môr anferth ym mis Mai a mis Mehefin. Mae teithiau cychod ar gael i ymweld â’r ynysoedd, yn enwedig ynys Sgomer lle caniateir glanio yno a gellir gweld aderyn y Pâl yn agos iawn. Mae 65,000 o Fulfrain Gwynion yn nythu ar ynys Sgogwm drwy gydol misoedd yr haf.
Sain Ffraid a Thŷ Ddewi
Ceir pentrefi arfordirol hardd ar Arfordir Gorllewinol sir Benfro. Mae’n werth ymweld ag Aber Bach a Solfach. Fodd bynnag, yr uchafbwynt yw dinas fach Tŷ Ddewi, prifddinas ysbrydol Cymru a’i chadeirlan anhygoel.
Trefdraeth a Mynyddoedd y Preseli
Tirweddau arfordirol garw a lleoedd anhygoel i ymweld â hwy gan gynnwys Porthgain, Pen Strwmbl, Cwm-yr-Eglwys a thref fach hen ffasiwn Trefdraeth. Credir mai ym Mynyddoedd y Preseli gerllaw y tarddodd y cerrig glas Côr y Cewri.
Cerdded a Beicio
Mae llwybr arfordir sir Benfro yn ymestyn dros 186 milltir ac, ar droed, byddai’n cymryd tua 10 diwrnod i gerdded ar ei hyd. Mae teithiau cerdded byrrach yn hawdd eu trefnu gyda chymorth gwasanaethau bysiau ardderchog ar gyfer cerddwyr a gellir cael gwybodaeth fanwl ar wefan y Parc Cenedlaethol. Ceir dwy ganolfan seiclo yn Nhrefdraeth a Saundersfoot lle mae nifer o lwybrau sydd wedi’u dewis yn arbennig ar gael.
Chwaraeon Dŵr
Gan fod y môr fwy neu lai'n amgylchynu sir Benfro, nid yw'n syndod bod syrffio, hwylfyrddio a barcud fyrddio, caiacio, hwylio a phlymio scwba yn hynod o boblogaidd. Mae'r dyfroedd cysgodol o amgylch dyfrffordd Aberdaugleddau a'r cefnfor agored yn cynnig amgylcheddau dysgu da, yn ogystal â thros 50 o draethau a phorthladdoedd i lansio cychod. Mae arbenigwyr ar weithgareddau penodol ar gael i gynnig hyfforddiant ac arweiniad neu i logi offer. Mae traethau Dale, Aberllydan, Niwgwl a Phorth Mawr yn lleoedd da i ymweld â hwy.I gael gwybod mwy ewch i: www.visitpembrokeshire.com
I lwytho copi PDF o’r llyfryn Llety oddi ar y we, cliciwch yma