Polisi Preifatrwydd
Mae'r polisi hwn yn egluro sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni wrth ymweld â'r wefan hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi hwn neu os nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at jane.donald@swwtp.co.uk cyn defnyddio’r wefan hon.
Mae’n bosibl y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech fwrw golwg dros y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Daeth y polisi hwn i rym ar 1af Ionawr 2009. Mae “Rydym/ein/ni” yn cyfeirio at Bartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru (a’n partneriaid) yn, The Coach House, Gerddi Aberglasne, Llangathen, Sir Gaerfyrddin, SA32 8QH
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau am bolisi preifatrwydd ein gwefan, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at jane.donald@swwtp.co.uk
Pa wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu?
Yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio’r wefan hon heb roi dim gwybodaeth i ni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd gwasanaethau ychwanegol ar gael os bydd gennym rywfaint o wybodaeth amdanoch.
Efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
• eich enw a’ch gwybodaeth gyswllt gan gynnwys eich cyfeiriad post a’ch cyfeiriad e-bost;
Beth yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir gennym?
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwasanaeth gwell ar eich cyfer, ac yn fwyaf arbennig am y rhesymau canlynol:
• i ddarparu atebion i’ch cwestiynau a ofynnir gennych drwy’r wefan;
• ar gyfer cadw cofnodion mewnol;
• i wella cynnwys y wefan;
• i roi copïau o’n llyfrynnau i chi y gallwch danysgrifio iddynt drwy ein gwefan;
• i ymateb i’ch ymholiadau am gynhyrchion ein partneriaid;
Marchnata Uniongyrchol
Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth i ni, rhoddir y dewis i chi roi gwybod i ni nad ydych am i ni ddefnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os byddwch yn dewis hyn, ni wnawn anfon dim deunydd marchnata uniongyrchol atoch.
Gallwch newid eich meddwl unrhyw adeg gan y bydd unrhyw beth a anfonwn atoch bob amser yn cynnwys y dewis i ddad-danysgrifio.
Marchnata dros yr e-bost
Hoffem hefyd roi’r wybodaeth uchod i chi dros neges e-bost. Fodd bynnag, yr ydym yn gwerthfawrogi bod negeseuon e-bost “sothach” wedi dod yn broblem dros y blynyddoedd diwethaf.
Os ydych wedi gofyn i ni am wybodaeth am ein cynhyrchion yn y gorffennol, mae’n bosibl y byddwn yn anfon gwybodaeth am ein hamrywiaeth o gynhyrchion dros neges e-bost, oni bai eich bod wedi gofyn i ni beidio â gwneud hynny.
Os ydych wedi rhoi gwybodaeth bersonol i ni er mwyn i ni anfon gwybodaeth dros yr e-bost atoch, byddwn yn parhau i ddarparu’r wybodaeth hon dros yr e-bost oni wnewch ofyn i ni beidio â gwneud hynny.
Fel arall, pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, byddwn yn gofyn i chi a ydych yn fodlon i ni anfon y math hwn o wybodaeth atoch dros yr e-bost ai peidio.
Os byddwch yn penderfynu ar unrhyw adeg nad ydych am gael negeseuon marchnata dros yr e-bost gennym bydd y dewis gennych bob amser i ddad-danysgrifio.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon?
Ni wnawn drosglwyddo, datgelu, gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ar wahân i’n partneriaid, heb eich caniatâd chi oni bai bod hyn yn angenrheidiol ar gyfer y rhesymau a nodir yn yr adran ‘Beth yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gesglir gennym’ neu pan fydd y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny. Mae’n bosibl y gwnawn ryddhau eich gwybodaeth bersonol i’n hasiantaethau marchnata uniongyrchol awdurdodedig neu i asiantaethau eraill oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni nad ydych am i hyn ddigwydd.
Sut mae cael copïau neu ddiwygio’r wybodaeth yr ydym wedi’i chasglu?
Efallai y byddwch yn gofyn i gael gweld manylion yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi fach. Os hoffech gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch ysgrifennwch at Bartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru, The Coach House, Gerddi Aberglasne, Llangathen, Sir Gaerfyrddin, SA32 8QH neu anfonwch neges e-bost. Os credwch fod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom i jane.donald@swwtp.co.uk. Byddwn yn cywiro neu’n diweddaru unrhyw wybodaeth cyn gynted â phosibl.
Diogelwch
Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Er mwyn sicrhau nad oes neb heb awdurdod yn cael mynediad at eich gwybodaeth nac yn ei datgelu, yr ydym wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas i ddiogelu a chadw’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.
Dolenni cyswllt
Mae’n bosibl y bydd gennym ddolenni’n cysylltu â gwefannau eraill nad ydynt dan ein rheolaeth ni. Unwaith y byddwch wedi gadael ein gwefan, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd dim gwybodaeth y byddwch yn ei darparu. Dylech fod yn ofalus a darllen datganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.
Briwsion
Nid ydym yn defnyddio briwsion ar ein gwefan.