Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr - Cwm Afan a Chwm Nedd
Dyma lle y dewch chi o hyd i Benrhyn Gŵyr, yr ardal gyntaf i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn y DU. Mae'r AHNE yn un o ardaloedd gwyllt gorau'r wlad ac fe gaiff ei dehongli’n llawn dychymyg yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili. Mae'r penrhyn hefyd yn gartref i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr gyda'i melin ddŵr grawn, siopau crefftau ac ystafelloedd te, enwog am eu pice ar y maen cartref a the hufen.
Mae Gerddi Botanegol Parc Singleton yn enwog yn rhyngwladol am eu harddangosfeydd o welyau blodau lliwgar a Gerddi Clun am eu casgliadau ardderchog o Rododendrons, Pieris ac Enkianthus. Maent yn fannau sy’n rhaid ymweld â hwy ar unrhyw daith o erddi a gofodau gwyrdd y rhanbarth. Dyfarnwyd Baner Werdd uchel ei bri i'r ddwy ardd am eu rhagoriaeth a byddant yn cynnal digwyddiadau arbennig ar hyd y flwyddyn. Drwy gydol mis Mai, mae 'Clun yn ei Blodau' yn fôr o liwiau wrth i’r rhododendrons a’r asaleâu ymgiprys am eich sylw. Mae Gerddi Botanegol Singleton yn cynnal 'Botaneg Blodeuog' yn ystod mis Awst, cyfle delfrydol i weld cynlluniau blodau a phlanhigion pensaernïol trawiadol.
Gallwch ddod o hyd i le cyfareddol arall i ymweld ag ef yn union yng nghanol canol dinas Abertawe. Mae Plantasia yn dŷ poeth pyramid gwydr trofannol effeithiol sy'n gartref i 5000 o blanhigion egsotig mewn tri pharth hinsawdd ar wahân.
Gwarchodir Bae Abertawe ei hun gan fryniau ac fe gaiff ei gynhesu gan y môr, gan greu micro hinsawdd ym mha un y gall planhigion tyner ffynnu. Bu chwilwyr planhigion oes Victoria yn chwilio sbesimenau planhigion yn India, Tsiena a Thibet a'u dwyn yn ôl i barciau a gerddi'r ardal ac mae'r etifeddiaeth honno yn dal i gael ei mwynhau gan filoedd bob blwyddyn.
Yn nwyrain Bae Abertawe gallwch ddod o hyd i ardaloedd Castell-nedd ac Afan. Mae gan yr ardal hon ddewis helaeth o olygfeydd hardd i ymweld â hwy. O rai o barciau gwledig a fforestydd gorau Cymru i gyfoeth o raeadrau dramatig yn cynnwys Aberdulais, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda'i gefnlen o adfeilion trawiadol.
Wedi ei leoli mewn 850 erw godidog mae Parc Gwledig Margam yn atyniad sy'n cynnwys Orendy gogoneddus o'r ddeunawfed ganrif (y mwyaf yn Ewrop), abaty adfeiliedig, casgliad ffiwsia unigryw a chastell cadarn ar ffurf plasty Fictorianaidd ar arddull Duduraidd Gothig sy'n edrych dros y dirwedd.
Mae Parc Gwledig y Gnoll wedi ei seilio ar ardd dirwedd o'r ddeunawfed ganrif gyda llynnoedd, rhaeadrau a chyfleusterau ymwelwyr ardderchog. Mae Parc Fforest Afan yn cynnwys un o'r dyffrynnoedd harddaf yng Nghymru o fewn ei 3,250 hectar. Mae hefyd yn enwog drwy’r byd am ei Goedfeydd Japaneaidd.
Archwiliwch Fae Abertawe yn fanylach yn visitswanseabay.com
a gerddi Bae Abertawe yn visitswanseabay.com/gardens a Chastell-nedd Port Talbot