Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Bae Abertawe
swansea Bay

Penrhyn Gŵyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf i'w dynodi yn y DU. Ar Benrhyn Gŵyr enwyd Rhosili fel un o 20 Taith Gerdded Wledig Orau yn y DU gan bapur The Times ac mae The Lonely Planet Guide hefyd yn pledio achos Penrhyn Gŵyr.

Gallech ystyried gwyliau cerdded wedi'i gysylltu ag un o wyliau cerdded yr ardal megis Gŵyl Gerdded Flynyddol y Gŵyr (5 - 20 Mehefin 2010) sy'n cynnwys dros 40 taith gerdded wedi eu graddio a arweinir gan dywyswyr profiadol sy'n gwneud yn siŵr eich bod yn elwa i'r eithaf o'ch gwyliau cerdded yn y DU. 

Gallwch Gerdded ar y Bwsym Mhenrhyn Gŵyr er mwyn mynd o gwmpas - bydd mapiau yn eich cynorthwyo i gyplysu eich teithiau cerdded gyda llwybrau sydd ag arwyddion da i'w dilyn. Mae ffordd hawdd i chwilio am y teithiau cerdded mwyaf poblogaidd ym Mae Abertawe    a hefyd dod o hyd i'r daith gerdded sy'n berffaith i chi 

I'r dwyrain o Fae Abertawe mae Ardal Castell Nedd Port Talbot sydd hefyd yn rhan o Fannau Brycheiniog. Ynghyd â bryniau a'r dyffrynnoedd coediog sy'n cuddio tri
chwarter o'r ardal mae'r lleoliad mwy na thebyg yn fwyaf adnabyddus fel 'Gwlad y Rhaeadrau - lle ceir cyfres o raeadrau dramatig yn gefnlen ar gyfer gwyliau cerdded cofiadwy.


 

 

 

 


// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Swansea Carmarthenshire Pembrokeshire
// Mwy o Wybodaeth

Pembrokeshire Walking

Carmarthenshire Walking

Swansea Bay Walking